Swyddfa bwrpasol neu ofod hyblyg yn y cyfnod datblygu. Mae'r cynlluniau i gynnwys 2 adeilad aml-lawr, a fyddai'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddibenion busnes yn y sector cyhoeddus neu breifat. Mae'r cyfle yn bodoli i fod yn rhan o'r gwaith cynnar o gynllunio a datblygu adeilad pwrpasol. Lleolir yr adeiladau yn yr Ardal Bae Copr sydd newydd ei datblygu yn Abertawe. Bydd yr adeiladau newydd yn gyfagos i Arena lwyddiannus Abertawe ac ochr yn ochr â phrif dramwyfa, gan gynnig digon o gyfleoedd marchnata i arddangos adeilad A1. Bydd golygfeydd o'r môr a seilwaith gwyrdd yn rhan o'r datblygiad. Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael: 10 munud ar droed i'r rheilffordd a 2 funud i'r orsaf fysiau. Mae 2 faes parcio aml-lawr yn y cyffiniau agos.
Cyfleoedd eraill
-
Cwm Gwyrdd Nantycaws Sir Gaerfyrddin | ArloeseddMenter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a DatblyguGofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy -
Ardal y Dywysoges, Abertawe Abertawe | AddysgGofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | FfatrïoeddMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd Bae Baglan Castell-nedd Port Talbot | ArloeseddMae Canolfan Arloesi Bae Baglan wedi'i lleoli ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Dyma gyfleuster blaenllaw sydd wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu. Mae'r ganolfan fodern hon yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ffyniant busnesau uwch-dechnoleg a chynaliadwy.
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu UwchParc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy