Mannau Hyblyg: Mae’r ganolfan yn cynnig 32 o unedau deor ac mae’r swyddfeydd yn amrywio o 344 i 936 troedfedd sgwâr a’r 5 uned labordy yn amrywio o 377 i 936 troedfedd sgwâr. Mae pob un yn cyrraedd isafswm Bioddiogelwch ar Lefel 1.
Mwynderau Modern: Cysylltedd band eang tra chyflym, gofod cynadledda, ystafelloedd cyfarfod, cegin gymunedol a chyfleusterau cawod.
Cynaliadwyedd: Mae maes parcio ar y safle, gan gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan a lle i storio beiciau.
Cymorth Busnes: Ceir mynediad at gymorth busnes a chyllid er mwyn helpu i sefydlu a gosod gweithrediadau.
Lleoliad Strategol: O fewn taith ychydig funudau o'r M4 ac yn agos at orsaf drenau Parcffordd Port Talbot, gan ddarparu cysylltedd rhagorol ag Abertawe, Caerdydd a Llundain.
Agosrwydd Academaidd: Yn agos at Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan feithrin cydweithio â'r byd academaidd.
Mae Canolfan Arloesi Bae Baglan yn berffaith ar gyfer busnesau newydd a busnesau sefydledig sy'n chwilio am amgylchedd deinamig a chefnogol ar gyfer twf yn eu gweithrediadau.
Cyfleoedd eraill
-
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | ArloeseddMae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Ardal y Dywysoges, Abertawe Abertawe | AddysgGofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a DatblyguGofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal IechydMae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu UwchParc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | ManwerthuProsiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy