Gofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu ac yn hyblyg, er mwyn gweddu â gofynion tenantiaid a chefnogi twf busnes organig. Bydd y pympiau gwres ffynhonnell aer yn rai effeithlon iawn a byddant wedi'u cynllunio i fod yn 'gwbl-drydanol', er mwyn negyddu'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, gan ostwng ôl troed carbon hirdymor yr adeilad.
Mae’r adeilad hwn o fewn cyrraedd hawdd i amryw o gysylltiadau trafnidiaeth ac mae wedi'i leoli dim ond 5 munud o waith cerdded o'r Gorsafoedd Rheilffordd a Bysiau.
Cyfleoedd eraill
-
Datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad Sir Gaerfyrddin | Hamdden a LletygarwchMae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Canolfan Dechnoleg y Bae Castell-nedd Port Talbot | ArloeseddGofod swyddfa a labordy o ansawdd uchel, i'w osod.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu UwchSefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | FfatrïoeddMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy