Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Mae’r Ardal yn gartref i borthladd ynni prysuraf y DU, sef Aberdaugleddau, ac mae’n cynnig lleoliad deniadol i gwmnïau ynni gan ei bod yn darparu mynediad rhagorol i isadeiledd ynni, cadwyn gyflenwi sefydledig ac isadeiledd ddosbarthu, gweithlu medrus a rhwydwaith o brifysgolion sydd ag arbenigedd mewn amrywiol feysydd sy’n gysylltiedig ag ynni.
Mae’r Ardal yn ganolbwynt sy’n tyfu’n gyflym, ar gyfer rhai o gewri ynni adnewyddadwy’r byd, gan greu cyfleoedd am gyflogaeth a busnes drwy brosiectau mawr sydd ag iddynt ynni carbon isel. Yn benodol, mae’n datblygu ffocws cynyddol ar ynni morol a chynhyrchu hydrogen ar sail ei lleoliad gerllaw parthau datblygu gwynt y môr ac asedau naturiol yn y Môr Celtaidd.
Mae parth arddangos ynni’r tonnau wedi’i sefydlu 13km (8 milltir) oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae’r potensial gan yr ardal hon i gefnogi arddangos araeau tonnau gyda chapasiti cynhyrchu o hyd at 30MW ar gyfer pob prosiect.
Heddiw, mae amrywiaeth ac arloesedd yn nodwedd yn yr amrywiaeth o fusnesau lleol ac hefyd mae’r Ardal yn arbennig o awyddus i gefnogi cwmnïau o sectorau eraill sydd am leoli neu ehangu yma.
Parc Cenedlaethol Sir Benfro yw’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol yn y DU. Mae’n adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ac mae’r arfordir a’r gefnwlad odidog yn darparu cyfleoedd i ymuno â diwydiant twristiaeth ffyniannus ac amgylchedd cyfoethog ar gyfer pob math o gynhyrchwyr bwyd.
Ochr yn ochr â busnesau newydd a rhai sefydledig ym meysydd ynni, bwyd a thwristiaeth, a’u cadwyni cyflenwi helaeth, mae cwmnïau TGCh a gweithgynhyrchu hefyd yn ffynnu yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
Mae’r dirwedd amrywiol hon yn golygu bod amrywiaeth eang o ardaloedd a safleoedd yn yr Ardal. Mae rhai o’r rhain yn gyhoeddus a rhai mewn perchnogaeth breifat ac maent yn cynnig amrywiaeth o safleoedd a chyfleoedd datblygu.
Am fwy o wybodaeth ewch i:
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau | Busnes Cymru - Ardaloedd Menter Cymru (llyw.cymru)
Cyfleoedd eraill
-
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | ArloeseddMae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Parc Dyfatty Sir Gaerfyrddin | Gweithdai BychainMae gan bob llain fynediad at garthffosydd dŵr budr a dŵr arwyneb, mae trydan a dŵr o’r prif gyflenwad ar gael ar ffin pob llain neu’n agos at y ffin.
Mae’r safleoedd ar gael ar wahân, er y gellir ystyried gwerthu dau blot gyda’i gilydd.
Darllen mwy -
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | GweithgynhyrchuDyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal IechydMae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | FfatrïoeddMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Cwm Gwyrdd Nantycaws Sir Gaerfyrddin | ArloeseddMenter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Darllen mwy