Ardal Forol Doc Penfro
Mae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru. Bydd yn sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer egni morol a pheirianneg, lle bydd ffocws ar ddarparu ymchwil a datblygu blaengar yn y diwydiant a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol. Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn helpu i sbarduno twf technolegau egni morol di-garbon, gan gefnogi datblygwyr ar eu taith drwy’r broses o ddylunio, profi, adeiladu a defnyddio eu dyfeisiau, tra hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer arloesi diwydiannol ar draws y sectorau glas a gwyrdd.
Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn darparu’r cyfleusterau, y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddi berthnasedd ar draws diwydiannau, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Ariennir y datblygiad £60 miliwn hwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat. Y pedair elfen yw:
- Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE)
Darperir gan: ORE Catapult
Pwrpas: Ymchwil, cefnogi a datblygu ac arddangos, ysgogi arloesedd yn y gadwyn gyflenwi a lleihau cost ynni. - Datblygiadau Porthladd Penfro
Darperir gan: Porthladd Aberdaugleddau
Pwrpas: Creu mannau sy'n helpu diwydiant i gynhyrchu, lansio a chynnal dyfeisiau. - Ardal Prawf Ynni Morol (META)
Darperir gan: Ynni Morol Cymru
Pwrpas: Hwyluso profi cydrannau, is-gydosod a dyfeisiau trwy ddefnyddio meysydd prawf a bennwyd ymlaen llaw er mwyn lleihau’r amser, y gost a’r risgiau a wynebir a chyflymu twf yn y sector.
Parth Arddangos Sir Benfro (PDZ)
Darperir gan: Celtic Sea Power
Pwrpas: Galluogi isadeiledd adnewyddadwy alltraeth i sbarduno’r defnydd o wynt alltraeth a chyfleoedd ynni morol yn y Môr Celtaidd.
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector CyhoeddusHwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Dociau Aberdaugleddau a Phenfro Sir Benfro | ArloeseddMae Porthladd Aberdaugleddau yn borth llongau blaenllaw o fewn y DU, gan drin y llwythi canlynol: hylif mewn swmp, defnydd sych mewn swmp, deunydd swmp rhanedig a chargo lifft trwm.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | ManwerthuProsiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a DatblyguGofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy -
71/72 Ffordd y Brenin, Abertawe Abertawe | Technoleg GwybodaethGofod swyddfa masnachol sy'n addas ar gyfer y sectorau digidol ac uwch-dechnoleg.
Darllen mwy