Mae gofod swyddfa bwrpasol neu ofod hyblyg ar gyfer twf ar gael. Mae'r datblygiad yn adeilad uwch-dechnoleg A1 sy'n addas ar gyfer busnesau sy'n gweithredu yn y sector digidol. Mae wedi'i leoli yn Ardal Fusnes Abertawe ac mae'n hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus: 10 munud o waith cerdded i'r orsaf drenau a 5 munud i'r orsaf fysiau. Mae maes parcio aml-lawr gyferbyn. Mae'r adeilad yn cynnwys teras to gwyrdd lle ceir golygfeydd tuag at y môr a gofod a rennir ar gyfer cydweithio rhyng-fusnes ac o fewn busnesau.
Cyfleoedd eraill
-
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | GweithgynhyrchuDyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Canolfan Dechnoleg y Bae Castell-nedd Port Talbot | ArloeseddGofod swyddfa a labordy o ansawdd uchel, i'w osod.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu BwydNod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector CyhoeddusHwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Ardal y Dywysoges, Abertawe Abertawe | AddysgGofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | ArloeseddMae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy