Sut ydyn ni'n dod ymlaen?
Mae adeiladu Pentre Awel yn mynd rhagddo'n gyflym ac mae cerrig milltir sylweddol eisoes wedi'u cyflawni, megis cwblhau'r strwythur dur ar gyfer parth cyntaf y datblygiad. Mae pwyslais ar gynaliadwyedd ac ymgysylltu lleol o fewn y prosiect, gan ddefnyddio deunyddiau sydd â llawer o gynnwys wedi’i ailgylchu, yn ogystal chyflogi isgontractwyr lleol. Mae'r ymrwymiad hwn i'r gymuned yn cael ei ddangos ymhellach trwy fentrau fel y cynllun llysgenhadon ysgol, lle mae disgyblion ysgol lleol yn ymweld â'r safle ac yn cyfrannu syniadau i lunio'r prosiect. Mae Pentre Awel yn cynrychioli gweledigaeth drawsnewidiol ar gyfer Llanelli, gan gyfuno twf economaidd ag iechyd a lles, er mwyn creu dyfodol bywiog a chynaliadwy i’r rhanbarth.
Y Parthau a’r Defnydd ohonynt
-
1
Parth 1 - HamddenHamdden D2 - Ymgynnull a Hamdden -
2
Parth 1 - Busnes, Ymchwil, Iechyd ac AddysgD1 Sefydliad Dibreswyl, B1 (b) Ymchwil a Datblygu Busnes, a C2 - Sefydliad Preswyl -
3
Parth 3 - BusnesB1 (B0 Ymchwil a Datblygu Busnes a B2 - Diwydiannau Ysgafn -
4
Parthau 2 a 3 - Byw â ChymorthC2 Sefydliad Preswyl, C3(a) a C3(b) Preswyl -
5
Parth 4C1- Gwesty
Pentre Awel
Cyfleoedd eraill
-
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal Iechyd
Mae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | Ffatrïoedd
Mae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu Bwyd
Nod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Datblygiad YMCA Sir Gaerfyrddin | TG
Mae’r adeilad YMCA sydd newydd ei ddatblygu wedi’i leoli ar Stryd Stepney, sef stryd boblogaidd yng nghanol tref Llanelli. Mae’r adeilad yn cael ei adfer ar gyfer dibenion economaidd, gyda’r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr o ardal y porth gorllewinol/ardal Gerddi’r Ffynnon i ganol y dref.
Darllen mwy -
Yr Hen Farchnad Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Mae’r adeilad llawn cymeriad hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 1830au wedi cael ei adfywio gyda chymorth cyllid gwerth dros £4m gan Lywodraeth Cymru, cyllid Ewropeaidd a chyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r cyfleuster newydd hwn yn cynnig 1.249m2 o ofod swyddfa a busnes, gofod marchnad/neuadd ddigwyddiadau, caffi a chyfleusterau cynadledda.
Darllen mwy