Dyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro. Mae'r unedau a gynigir yn amrywio o 110m² i 477m² ac maent yn cynnwys paneli modern wedi'u hinswleiddio, cysylltiad band eang cyflym â'r adeilad a’r gwasanaethau prif gyflenwad. Mae digonedd o leoedd parcio a safle logistaidd manteisiol yn golygu bod y safle hwn yn cynnig yr adeilad delfrydol i redeg busnes sy'n tyfu.
Gellir gosod neu brynu unedau, sydd wedi eu cwblhau’n barod neu 'oddi ar y slab' a gofynnir am ymholiadau gan bawb sydd â diddordeb. Mae nifer yr unedau yn gyfyngedig ac yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin.
Cynllun y safle
Ceir mynediad i'r safle oddi ar ffordd yr A477 ac mae’r ffordd at yr ystâd yn darparu mynediad digonol i gerbydau mawr at bob uned. Mae digonedd o leoedd parcio ac yn agos at bob uned.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- 2 uned sydd yn 110m²
- 4 uned sydd yn 200m²
- 5 uned sydd yn 220m²
- 1 uned sydd yn 280m²
- 1 uned sydd yn 477m²
Derbynnir ymholiadau ynghylch isrannu'r unedau mwy.
Cyfleoedd eraill
-
Yr Hen Farchnad Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Mae’r adeilad llawn cymeriad hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 1830au wedi cael ei adfywio gyda chymorth cyllid gwerth dros £4m gan Lywodraeth Cymru, cyllid Ewropeaidd a chyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r cyfleuster newydd hwn yn cynnig 1.249m2 o ofod swyddfa a busnes, gofod marchnad/neuadd ddigwyddiadau, caffi a chyfleusterau cynadledda.
Darllen mwy -
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | Gweithgynhyrchu
Dyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | Arloesedd
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector Cyhoeddus
Hwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu Uwch
Parc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal Iechyd
Mae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy