Mae'r Palas yn theatr hanesyddol sydd wedi'i hadnewyddu'n llwyr. Mae’n addas ar gyfer gofod swyddfa cynllun agored a gofod swyddfa a rennir ar gyfer busnesau bach a rhai newydd. Darperir cefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio gan Tramshed Tech, sy’n gyfrifol am weithredu’r adeilad. Mae hyn yn cynnwys cydweithio, hyfforddiant a chymorth arall ar gyfer twf busnesau bach sy’n gweithredu’n bennaf yn y sector technoleg.
Dwy funud o gerdded sydd o Theatr y Palas i'r orsaf rheilffordd a 10 munud i'r orsaf fysiau.
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu UwchSefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad Sir Gaerfyrddin | Hamdden a LletygarwchMae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | FfatrïoeddMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Ardal y Dywysoges, Abertawe Abertawe | AddysgGofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu.
Darllen mwy