Mae mynediad uniongyrchol i Barc Felindre o Gyffordd 46 yr M4 ac mae ffordd fynediad gylchol yn ei wasanaethu. Mae’r Parc wedi'i dirlunio i safon uchel ac mae digon o le parcio wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â phob llain. Mae lleiniau ar gael ar unwaith. Mae'r safle’n hyblyg ac yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sy'n ehangu a mewnfuddsoddiad mawr.
Mae cynllun y parc busnes yn darparu lleiniau o feintiau amrywiol ac mae digon o le i barcio ceir, gan roi dewis i ddatblygwyr a deiliaid parthed eu gofynion presennol a’u gofynion yn y dyfodol. Mae Parc Felindre yn barc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol.
Gellir darparu arwynebedd llawr posibl o hyd at 80,065 metr sgwâr (862,000 troedfedd sgwâr) ar 16 hectar (40 erw) net, yn ymestyn i 43 hectar (106 erw) i gyd. O fewn yr arwynedd hwn, mae hyd at 16 hectar (39.5 erw) o dir cyflogaeth ar gael mewn 12 o leiniau sydd â gwasanaethau llawn ac mae’r rhain yn amrywio o ran maint o 0.5 i 2 hectar (1.2 i 4.9 erw).
Mae'r safle gerllaw Is-orsaf Gogledd Abertawe, gan ddarparu mynediad helaeth i'r Grid Trydan.
Mae’r parc busnes wedi’i ddyrannu ar gyfer defnydd B1 a B2 o fewn dynodiad cwmpas y parc.
Cyfleoedd eraill
-
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu Bwyd
Nod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector Cyhoeddus
Hwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | Arloesedd
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | Manwerthu
Prosiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a Datblygu
Gofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy