Gofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu ac yn hyblyg, er mwyn gweddu â gofynion tenantiaid a chefnogi twf busnes organig. Bydd y pympiau gwres ffynhonnell aer yn rai effeithlon iawn a byddant wedi'u cynllunio i fod yn 'gwbl-drydanol', er mwyn negyddu'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, gan ostwng ôl troed carbon hirdymor yr adeilad.
Mae’r adeilad hwn o fewn cyrraedd hawdd i amryw o gysylltiadau trafnidiaeth ac mae wedi'i leoli dim ond 5 munud o waith cerdded o'r Gorsafoedd Rheilffordd a Bysiau.
Cyfleoedd eraill
-
71/72 Ffordd y Brenin, Abertawe Abertawe | Technoleg Gwybodaeth
Gofod swyddfa masnachol sy'n addas ar gyfer y sectorau digidol ac uwch-dechnoleg.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai Bychain
Canolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu Bwyd
Nod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Parc Gelli Werdd Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Mae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn brosiect trawsnewid sy’n cynnwys sawl llain ddatblygu sydd wedi’u lleoli o fewn un o barthau cyflogaeth mwyaf arwyddocaol y Sir.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu Uwch
Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd Bae Baglan Castell-nedd Port Talbot | Arloesedd
Mae Canolfan Arloesi Bae Baglan wedi'i lleoli ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Dyma gyfleuster blaenllaw sydd wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu. Mae'r ganolfan fodern hon yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ffyniant busnesau uwch-dechnoleg a chynaliadwy.
Darllen mwy