Cyfeillgar i'r amgylchedd
Mae system fesur a monitro soffistigedig wedi'i hymgorffori yn y tri adeilad. Bydd y sytem hon yn cofnodi llawer iawn o ddata sy'n ymwneud â chynhyrchu a defnyddio'r holl ynni ar y safle, yn ogystal â’r ffactorau amgylcheddol a allai fod yn effeithio ar y defnydd o ynni. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio gan y Gyd-fenter i ddarparu cyfleoedd dysgu yn y dyfodol i denantiaid, mewn perthynas â'u defnydd o ynni ac i helpu i wthio'r diwydiant adeiladu tuag at adeiladu adeiladau masnachol sy’n bodloni safonau cynaliadwyedd cymharol, trwy ddangos tystiolaeth o'r manteision a'u maint.
Lleoliad
Mae'r lleoliad yn Cross Hands yn ddelfrydol ar gyfer defnydd busnes, agn fod mynediad uniongyrchol i rwydwaith ffyrdd yr A48/M4. Mae marchnadoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o fewn cyrraedd yn rhwydd a hefyd mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer gwneud gwelliannau pellach i’r drafnidiaeth. Mae band eang cyflym iawn hefyd ar gael yn dilyn uwchraddio'r gyfnewidfa i ddarparu ar gyfer cyfathrebu ffibr modern, sy’n hanfodol erbyn hyn.
Unedau sydd ar gael
-
1
Swyddfeydd225-450 troedfedd sgwâr -
2
Unedau hybrid (swyddfeydd/diwydiant ysgafn)686-1090 troedfedd sgwâr -
3
Unedau diwydiannol ysgafn2681-2810troedfedd sgwâr
Parc Gelli Werdd
Cyfleoedd eraill
-
Parc Gelli Werdd Sir Gaerfyrddin | Gweithdai BychainMae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn brosiect trawsnewid sy’n cynnwys sawl llain ddatblygu sydd wedi’u lleoli o fewn un o barthau cyflogaeth mwyaf arwyddocaol y Sir.
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu UwchParc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy -
Dociau Aberdaugleddau a Phenfro Sir Benfro | ArloeseddMae Porthladd Aberdaugleddau yn borth llongau blaenllaw o fewn y DU, gan drin y llwythi canlynol: hylif mewn swmp, defnydd sych mewn swmp, deunydd swmp rhanedig a chargo lifft trwm.
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | ManwerthuProsiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy