Mae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Dechreuodd y gwaith datblygu ym mis Medi 2023, gyda’r cam cychwynnol yn cynnwys gosod seilbyst a gwaith ar y tir. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd Gogledd Stryd y Farchnad yn darparu mannau masnachol modern sydd â chyfarpar da, ag sydd wedi'u dylunio i ddenu amrywiaeth o fusnesau. Bydd yr unedau preswyl uwchben yn cynnig llety o ansawdd uchel, gan gyfrannu at greu defnydd cymysg mewn ardal fywiog, sy'n cefnogi byw a gweithio yng nghanol y dref.
Mae’r prosiect hwn yn pwysleisio ymrwymiad y Cyngor i wella amgylchedd trefol Llanelli, gan ei wneud yn fwy deniadol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Trwy wella’r defnydd a wneir o eiddo gwag ac eiddo nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol, nod datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yw hybu’r economi leol, creu swyddi a meithrin ymdeimlad o gymuned. Mae'r fenter hon yn rhan hanfodol o'r strategaeth adfywio ehangach, gan sicrhau bod Llanelli yn parhau i fod yn lle deinamig ac apelgar i fyw a gweithio ynddo.
Mae’r telerau mewn perthynas â phrydles ar y safle cyfan yn agored i drafodaeth, ond byddai disgwyl prydlesau atgyweirio ac yswiriant llawn o tua 5 mlynedd ar gyfer yr unedau unigol.
Gogledd Stryd y Farchnad
Cyfleoedd eraill
-
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector CyhoeddusHwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | GweithgynhyrchuDyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu BwydNod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad Sir Gaerfyrddin | Hamdden a LletygarwchMae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Darllen mwy