Mae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40. Mae Trecwn yn rhan o Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac mae iddo gyswllt rheilffordd.
Adeiladwyd Trecwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ym 1938 ac roedd yn gweithredu fel man cadw ffrwydron ac arfau rhyfel y llynges. Roedd 59 o siambrau storio tanddaearol ac adeiladau helaeth uwchben y ddaear yn Nhrecwn. Roedd yn cynnwys seilwaith ar gyfer tair ystâd dai i weithwyr ac yn amgylchedd diogel. Roedd y brif reilffordd, a gysylltwyd â llinell Abergwaun-Paddington, yn hwyluso trafnidiaeth o fewn y safle.
Wedi iddo gael ei ddadgomisiynu ym 1992, gwerthwyd Trecwn i gonsortiwm Eingl-Wyddelig ym 1998 ac yna i'w berchennog presennol o Lundain yn 2002. Mae'r safle wedi cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac mae’n cael ei asesu ar gyfer defnydd diwydiannol, megis cynhyrchu ynni a chyfleoedd yn ymwneud â rheilffyrdd. Mae nifer o hen adeiladau a seilwaith y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Nhrecwn ac mae’r rhain yn addas ar gyfer ystod o ddibenion swyddfa, dibenion diwydiannol, warysau a storio.
Mae RDW Services Cyf. yn rheoli’r gwaith cynnal a chadw, ailddatblygu a marchnata yn Nhrecwn.
Defnydd Arfaethedig
Yn ystod y 7 mlynedd diwethaf, mae'r safle wedi'i gynnal i safon uchel er mwyn ei gadw’n addas ar gyfer ei ailddatblygu. Yn ystod y cyfnod hwn, mae llawer iawn o ddiddordeb wedi bod gan lawer o gwmnïau sydd ag amrywiaeth o ofynion.
Er mwyn annog buddsoddiad mewnol, mae'r safle wedi'i gynnwys yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac mae eisoes wedi derbyn ystod eang o ymholiadau, llawer ohonynt yn gysylltiedig â rheilffyrdd.
Mae'r safle'n addas ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am gludo defnyddiau/nwyddau/ gwasanaethau i mewn ac allan at ddibenion storio a/neu ddosbarthu ar y ffordd a'r rheilffordd. Am ragor o wybodaeth ewch i: Trecwn Valley | Renewable Development Wales (rdwales.co.uk)
Cyfleoedd eraill
-
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | Gweithgynhyrchu
Dyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | Arloesedd
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu Uwch
Parc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal Iechyd
Mae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu Uwch
Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | Ffatrïoedd
Mae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy