Mae Maes Awyr Hwlffordd wedi’i leoli ger cefnffordd yr A40, dim ond dwy filltir i’r gogledd o Hwlffordd.
Mae’r maes awyr wedi'i leoli yng nghanol prydferthwch Sir Benfro ac mae'n cynnig teithiau hedfan dros gefn gwlad fryniog odidog ac o amgylch y golygfeydd ysblennydd a geir yn yr unig Barc Cenedlaethol Arfordirol yn y DU.
Mae Maes Awyr Hwlffordd wedi’i drwyddedu gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ers 1974.
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cynnal rhaglen ddatblygu gyson, gan sefydlu’r maes awyr fel cyfleuster o ansawdd uchel i gefnogi busnes a gweithgarwch hedfan cyffredinol.
Cyngor Sir Benfro sy'n berchen ar y maes awyr yn llwyr ac yn ei redeg.
Maes Awyr Hwlffordd sydd â’r potensial datblygu mwyaf o’i gymharu â’r meysydd awyr cyfagos yn y rhanbarth. Mae'r ardal hon o fewn y Sir yn cael ei datblygu'n sylweddol, oherwydd ei hymwneud â'r economi ynni gwyrdd yn y dyfodol, ar sail y Gwynt Arnofiol ar y môr, ynni ffrwd llanw a thonnau a ffrydiau hydrogen.
Maes Awyr Hwlffordd yw un o’r meysydd awyr agosaf at Ewrop yn y DU, ac mae’n cynnig cyfle posibl wrth symud ymlaen yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r maes awyr hefyd yn un o Ardaloedd Menter dynodedig Llywodraeth Cymru, ac felly’n gallu manteisio ar broses gynllunio sydd wedi cael ei symleiddio. Yn hanesyddol, mae wedi bod yn adnodd sydd heb ei ddatblygu’n llawn o fewn y Sir ac mae ei ddatblygiad pellach wedi dod dan sylw unwaith eto yn sgil nifer sylweddol o ymholiadau mewnfuddsoddi yn dilyn y pandemig Covid.
Am ragor o wybodaeth ewch i: Maes Awyr Hwlffordd - Cyngor Sir Benfro
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai Bychain
Canolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Parc Gelli Werdd Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Mae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn brosiect trawsnewid sy’n cynnwys sawl llain ddatblygu sydd wedi’u lleoli o fewn un o barthau cyflogaeth mwyaf arwyddocaol y Sir.
Darllen mwy -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | Gweithgynhyrchu
Dyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | Arloesedd
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Cwm Gwyrdd Nantycaws Sir Gaerfyrddin | Arloesedd
Menter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Darllen mwy