Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borth llongau blaenllaw o fewn y DU, gan drin y llwythi canlynol: hylif mewn swmp, defnydd sych mewn swmp, deunydd swmp rhanedig a chargo lifft trwm. Fe'i adnabyddir fel porthladd ynni mwyaf y DU ac mae'n gallu darparu 30% o'r galw am nwy yn y DU.
Ochr yn ochr ag adran forol arbenigol sy'n cynnwys efelychydd mordwyo o'r radd flaenaf, mae diddordebau gweithredol y Porthladd yn cynnwys Dociau Pysgod Aberdaugleddau, Porthladd Penfro, Marina Aberdaugleddau, Parc Manwerthu Haven's Head a Therfynfa Fferi Doc Penfro. Mae gan y prthladd bortffolio eiddo masnachol amrywiol sy'n cwmpasu unedau diwydiannol ysgafn a thrwm, swyddfeydd a mannau manwerthu a warysau.
Bydd dau brosiect blaenllaw, sef Glannau Aberdaugleddau ac Ardal Forol Doc Penfro, yn ehangu portffolio busnes Porthladd Aberdaugleddau ymhellach ac yn creu cyfleoedd newydd yn y rhanbarth, ym meysydd manwerthu, hamdden, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy.
MANTEISION STRATEGOL ALLWEDDOL
Mae’r manteision strategol allweddol fel a ganlyn:
- Dyfnder dŵr sydd dros 17.0m ar gael ar bob adeg o'r llanw a'r gallu i drin. cychod sydd â dyfnder hyd at 22.0m
- Agosrwydd at lwybrau masnach yr Iwerydd.
- Piblinellau nwy ac olew sydd â chynhwysedd uchel a chysylltiadau trydan i ganol y DU.
Ar hyn o bryd mae'r Porthladd yn gwasanaethu: Purfa Valero a Therfynell Olew Valero Sir Benfro, Puma Energy, South Hook LNG a Dragon LNG. Derbynnir llwythi o Fôr y Gogledd, Gogledd a Gorllewin Affrica, y Dwyrain Canol, Asia ac Ewrop. Cludir defnyddiau sydd wedi'u prosesu’n ddomestig ac yn rhyngwladol. Mae’r ddyfrffordd hefyd yn gartref i orsaf bŵer nwy fwyaf Ewrop, sef Gorsaf Bŵer Penfro, a adeiladwyd gan RWE nPower. Mae cadwyn gyflenwi sy’n meddur ar sgiliau uchel amrywiol wedi datblygu'n lleol ar gyfer cefnogi'r sector ynni, sydd hefyd yn ymgorffori'r sector ynni adnewyddadwy morol yn gynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Borthladdoedd Penfro ac Aberdaugleddau ewch i: The Port | Port of Milford Haven (mhpa.co.uk)
Quayside Properties: Quayside Properties - Property To Let in Pembrokeshire
Cyfleoedd eraill
-
Biome, Abertawe Abertawe | ManwerthuProsiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd Bae Baglan Castell-nedd Port Talbot | ArloeseddMae Canolfan Arloesi Bae Baglan wedi'i lleoli ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Dyma gyfleuster blaenllaw sydd wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu. Mae'r ganolfan fodern hon yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ffyniant busnesau uwch-dechnoleg a chynaliadwy.
Darllen mwy -
Parc Gelli Werdd Sir Gaerfyrddin | Gweithdai BychainMae Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn brosiect trawsnewid sy’n cynnwys sawl llain ddatblygu sydd wedi’u lleoli o fewn un o barthau cyflogaeth mwyaf arwyddocaol y Sir.
Darllen mwy -
Parc Felindre, Abertawe Abertawe | Gweithgynhyrchu UwchParc busnes sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau sy'n dod i'r amlwg, megis diwydiannau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg a diwydiannau defnydd lefel uchel, ynghyd â diwydiannau defnydd ategol pan y byddant yn gyflenwol. Defnydd B1 a B2.
Darllen mwy -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai BychainGan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy