Gofodau Hyblyg: Mae’r ganolfan yn cynnig 23 o swyddfeydd yn amrywio o 215 i 1,000 troedfedd sgwâr ac 8 uned labordy o 215 i 753 troedfedd sgwâr. Mae pob un yn cyrraedd o leiaf Lefel 1 mewn Bioddiogelwch.
Cyfleusterau Modern: Cysylltedd ffibr cyflym iawn, ystafelloedd cyfarfod, mannau trafod ar wahân, cegin gymunedol a chyfleusterau cawod.
Cynaliadwyedd: Parcio ar y safle a mannau gwefru cerbydau trydan a lle i storio beiciau.
Cymorth Busnes: Mynediad at gymorth busnes a chyllid ar gyfer helpu i sefydlu a gosod gweithrediadau.
Lleoliad Strategol: Munudau’n unig o'r M4 ac yn agos at y brif reilffordd o Abertawe i Lundain, gan ddarparu cysylltedd rhagorol.
Agosrwydd Academaidd: Yn agos at Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac felly’n meithrin cydweithrediad â'r byd academaidd.
Mae Canolfan Dechnoleg y Bae yn ddelfrydol ar gyfer busnesau newydd, busnesau cynhenid a mewnfuddsoddwyr sy'n chwilio am amgylchedd cynaliadwy ac arloesol i dyfu eu gweithrediadau.
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad Sir Gaerfyrddin | Hamdden a LletygarwchMae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu BwydNod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | ManwerthuProsiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a DatblyguGofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy -
Datblygiad YMCA Sir Gaerfyrddin | TGMae’r adeilad YMCA sydd newydd ei ddatblygu wedi’i leoli ar Stryd Stepney, sef stryd boblogaidd yng nghanol tref Llanelli. Mae’r adeilad yn cael ei adfer ar gyfer dibenion economaidd, gyda’r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr o ardal y porth gorllewinol/ardal Gerddi’r Ffynnon i ganol y dref.
Darllen mwy