Ardal Forol Doc Penfro
Mae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru. Bydd yn sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer egni morol a pheirianneg, lle bydd ffocws ar ddarparu ymchwil a datblygu blaengar yn y diwydiant a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol. Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn helpu i sbarduno twf technolegau egni morol di-garbon, gan gefnogi datblygwyr ar eu taith drwy’r broses o ddylunio, profi, adeiladu a defnyddio eu dyfeisiau, tra hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer arloesi diwydiannol ar draws y sectorau glas a gwyrdd.
Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn darparu’r cyfleusterau, y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o safon fyd-eang ar gyfer peirianneg forol. Er y bydd iddi berthnasedd ar draws diwydiannau, mae ei ffocws uniongyrchol ar y sector ynni carbon isel. Ariennir y datblygiad £60 miliwn hwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat. Y pedair elfen yw:
- Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE)
Darperir gan: ORE Catapult
Pwrpas: Ymchwil, cefnogi a datblygu ac arddangos, ysgogi arloesedd yn y gadwyn gyflenwi a lleihau cost ynni. - Datblygiadau Porthladd Penfro
Darperir gan: Porthladd Aberdaugleddau
Pwrpas: Creu mannau sy'n helpu diwydiant i gynhyrchu, lansio a chynnal dyfeisiau. - Ardal Prawf Ynni Morol (META)
Darperir gan: Ynni Morol Cymru
Pwrpas: Hwyluso profi cydrannau, is-gydosod a dyfeisiau trwy ddefnyddio meysydd prawf a bennwyd ymlaen llaw er mwyn lleihau’r amser, y gost a’r risgiau a wynebir a chyflymu twf yn y sector.
Parth Arddangos Sir Benfro (PDZ)
Darperir gan: Celtic Sea Power
Pwrpas: Galluogi isadeiledd adnewyddadwy alltraeth i sbarduno’r defnydd o wynt alltraeth a chyfleoedd ynni morol yn y Môr Celtaidd.
Cyfleoedd eraill
-
Trecwn Sir Benfro | Ffatrïoedd
Mae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu Uwch
Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector Cyhoeddus
Hwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd Bae Baglan Castell-nedd Port Talbot | Arloesedd
Mae Canolfan Arloesi Bae Baglan wedi'i lleoli ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Dyma gyfleuster blaenllaw sydd wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu. Mae'r ganolfan fodern hon yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ffyniant busnesau uwch-dechnoleg a chynaliadwy.
Darllen mwy -
Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough Sir Benfro | Gweithgynhyrchu
Dyma gyfle anhygoel i ddod yn berchen neu i osod eiddo ar ran fwyaf newydd Ystad Ddiwydiannol Honeyborough, Neyland, Sir Benfro.
Darllen mwy