Mae Biome yn brosiect adfywio defnydd cymysg sy’n cynnwys gofod preswyl, masnachol, manwerthu ac arddangos. Fe’i cynlluniwyd gan gofio bod cynaliadwyedd a lles meddianwyr yn greiddiol iddo. Mae’n adeilad bioffilig, gan fod cyfle i gysylltu gweithgareddau â'r mannau tyfu a ddarperir trwy gyfrwng y tai gwydr. Mae llwybr cerdded bioffilig yn arwain at y fynedfa fasnachol. Yn y gofod masnachu ar loriau 1-3, ceir lifft dynodedig a thoiled, a darperir storfa feiciau a chyfleusterau cawod, yn ogystal. Gellir isrannu'r gofod hwn yn ystafelloedd swyddfa llai, er mwyn darparu ar gyfer nifer o denantiaethau. Mae man agored sy’n galluogi i oleuni naturiol dreiddio i mewn ar yr ochr orllewinol. Yn y prif dŷ gwydr, bydd system ddŵr a hydroponeg a gardd gaeaf uchder dwbl, y gellir ei harchebu ar gyfer cyfarfodydd. Bydd cyfleoedd manwerthu a bwyd a diod ar y llawr gwaelod. Bydd y bwyd fydd ar gael yn cynnwys yr hyn a dyfir yn yr adeilad, gan leihau ôl troed carbon. Mae'r adeilad yn cynnwys system wresogi sy’n defnyddio dolen amgylchynol, yn ogystal â rheoli dŵr trwy ddull cynaliadwy. Bydd cysylltedd digidol cyflawn ar gael.
Mae byw'n fioffilig yn fuddiol i iechyd a lles. Bydd gan breswylwyr fynediad i'r fferm drefol gymunedol fydd ar y to a'r cyfleuster ymchwil. Bydd to biosolar a ffotofoltäig integredig yn darparu ynni adnewyddadwy. Cesglir a rheolir dŵr glaw ar gyfer dyfrhau’r mannau gwyrdd.
Cyfleoedd eraill
-
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal IechydMae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy -
Gogledd Abertawe Ganolog, Abertawe Abertawe | Ymchwil a DatblyguGofod masnachol addas ar gyfer swyddfeydd, ymchwil a datblygu ac ati, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Darllen mwy -
Parc Bwyd Sir Benfro Sir Benfro | Cynhyrchu BwydNod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Darllen mwy -
Datblygiad YMCA Sir Gaerfyrddin | TGMae’r adeilad YMCA sydd newydd ei ddatblygu wedi’i leoli ar Stryd Stepney, sef stryd boblogaidd yng nghanol tref Llanelli. Mae’r adeilad yn cael ei adfer ar gyfer dibenion economaidd, gyda’r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr o ardal y porth gorllewinol/ardal Gerddi’r Ffynnon i ganol y dref.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | ArloeseddMae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy -
Parc Dyfatty Sir Gaerfyrddin | Gweithdai BychainMae gan bob llain fynediad at garthffosydd dŵr budr a dŵr arwyneb, mae trydan a dŵr o’r prif gyflenwad ar gael ar ffin pob llain neu’n agos at y ffin.
Mae’r safleoedd ar gael ar wahân, er y gellir ystyried gwerthu dau blot gyda’i gilydd.
Darllen mwy