Ein Sectorau
-
Gwyddorau Bywyd a Lles
Mae Rhanbarth De-orllewin Cymru ar flaen y gad ym maes gwyddorau bywyd a lles, ac mae’r ddarpariaeth mewn gofal iechyd a’r ragoriaeth academaidd yn gryfderau amlwg yn y rhanbarth. Mae’r rhanbarth yn gartref i nifer o gyfleusterau a sefydliadau ymchwil blaengar, gan gynnwys Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, sy’n meithrin cydweithio rhwng y byd academaidd, darparwyr gofal iechyd a diwydiant. Mae'r synergedd hwn yn gyrru arloesedd mewn technolegau meddygol a fferyllol a gwasanaethau iechyd, gan gyfrannu at ddatblygiadau mewn gofal a lles cleifion.
-
Egni
Mae Rhanbarth De-orllewin Cymru yn arweinydd ym maes datrysiadau ynni cynaliadwy, ac mae ffocws cryf ar brosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae portffolio ynni amrywiol y rhanbarth yn cynnwys mentrau ynni gwynt, solar a morol, ac mae’r rhain yn destun buddsoddiadau sylweddol gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r prosiectau hyn nid yn unig yn cyfrannu at ddiogelu ffynonellau ynni’r rhanbarth, ond maent hefyd yn sbarduno twf economaidd a chreu swyddi. Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn sbarduno’r economi carbon isel yn y rhanbarth, gan greu coridor buddsoddi ac arloesi gwyrdd i helpu i ysgogi mewnfuddsoddiad sylweddol, datblygu sgiliau yn y dyfodol a datgarboneiddio cenedlaethol.
-
Gweithgynhyrchu Clyfar
Mae gweithgynhyrchu clyfar yn gonglfaen i strategaeth economaidd Rhanbarth De Orllewin Cymru, gyda ffocws ar gynhyrchu uwch-dechnoleg, awtomeiddio, a thechnolegau Diwydiant 4.0. Mae sector gweithgynhyrchu’r rhanbarth yn elwa o draddodiad cryf o ragoriaeth ddiwydiannol a gweithlu medrus, sy’n cael eu cefnogi gan sefydliadau ymchwil a chanolfannau arloesi blaenllaw.
-
Diwydiannau Digidol a Chreadigol
Mae’r diwydiannau digidol a chreadigol yn ffynnu yn Rhanbarth De-orllewin Cymru. Maent yn cael eu cefnogi gan seilwaith digidol cadarn a chymuned fywiog o fusnesau newydd ym maes technoleg a gweithwyr creadigol proffesiynol. Mae strategaeth ddigidol y rhanbarth yn canolbwyntio ar wella cysylltedd, meithrin arloesedd a hyrwyddo cynhwysiant digidol, gan sicrhau bod busnesau a thrigolion yn gallu cymryd rhan lawn yn yr economi digidol.
-
Hamdden a Lletygarwch
Mae De-orllewin Cymru yn mwynhau amgylchedd gwych ac ‘ansawdd bywyd’ unigryw, sy’n ased allweddol i’r rhanbarth o ran cefnogi economi ymwelwyr gwerth uchel sy’n eiddo lleol ac yn rhan ganolog o’n cynnig buddsoddi. Rydym yn gwneud De-orllewin Cymru yn adnabyddus am ansawdd ac ehangder y ‘profiad a gynnigir’, sy’n ddibynnol ar ansawdd y cynnig diwylliannol ac amgylcheddol a geir yn y rhanbarth. Gan fod dros 13,000 o fusnesau o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden ledled De-orllewin Cymru mae hwn yn sector allweddol o fewn y rhanbarth.