Mae Cwm Gwyrdd Nantycaws yn safle o 84 o hectarau, wedi'i leoli ar hyd yr A48, dim ond 15 munud o'r M4, hefyd ar y prif lwybr trafnidiaeth o ddiwydiant ynni a phorthladdoedd Gorllewin Cymru, gan gynnwys Aberdaugleddau, Abergwaun a Doc Penfro, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer mewnforio, allforio a defnydd carbon isel o longau.
Mae'r weledigaeth ar gyfer CWM Gwyrdd Nant-y-caws yn cynnwys newid mawr tuag at ynni adnewyddadwy glân, a fydd yn cynnwys ynni solar, ar y cyd â storio batris, yn creu safle cwbl hunangynhaliol. Mae’r prosiect yn hefyd archwilio dechnolegau newydd yn cynnwys rôl ynni hydrogen yn ein rhaglen ynni adnewyddadwy ehangach. Bydd Cyfleuster Adfer Adnoddau (RRF) newydd o'r radd flaenaf, a fydd yn agor yng ngaeaf 2025, yn cynyddu'n helaeth allu'r rhanbarth i ddidoli a chynhyrchu nwyddau o safon. Bydd ardal Gweithgynhyrchu Economi Gylchol newydd yn creu nwyddau newydd o ddeunyddiau wedi'u hadfer. Bydd hon yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer arloesi a gweithgynhyrchu'r economi werdd, gan gynhyrchu nwyddau newydd o ddeunyddiau gwastraff. Bydd Parc Busnes penodol i'r Diwydiant Ysgafn yn cael ei ddatblygu i gwrdd â'r diffyg cyflenwad presennol ar draws De Orllewin Cymru. Bydd y parc arfaethedig yn cynnwys rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ar raddfa fawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi fflydoedd masnachol a defnyddwyr cerbydau trydan cyhoeddus. Partneriaethau i'w ffurfio gyda Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a sefydliadau tebyg eraill, i sefydlu canolfan Ymchwil a Datblygu pwrpasol sy'n canolbwyntio ar wella arloesedd yr economi gylchol. Bydd y man hwn yn cefnogi ymchwilio ar y cyd i ailddefnyddio deunyddiau, technolegau carbon isel, a dylunio cynaliadwy.
Cyfleoedd eraill
-
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector Cyhoeddus
Hwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | Arloesedd
Mae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Cwm Gwyrdd Nantycaws Sir Gaerfyrddin | Arloesedd
Menter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Darllen mwy -
Dociau Aberdaugleddau a Phenfro Sir Benfro | Arloesedd
Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borth llongau blaenllaw o fewn y DU, gan drin y llwythi canlynol: hylif mewn swmp, defnydd sych mewn swmp, deunydd swmp rhanedig a chargo lifft trwm.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | Ffatrïoedd
Mae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Porthladd Rhydd Celtaidd Sir Benfro | Arloesedd
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.
Darllen mwy