Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd ar agor i fusnes a bydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan gynhyrchu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd. Mae’r cais trawsnewidiol yn cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn rhychwantu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a’r diwydiant dur ar draws de-orllewin Cymru.
Mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Phorthladd Aberdaugleddau. Mae safleoedd treth a thollau’r cais, sydd wedi’u lleoli’n strategol, yn ymestyn dros bron i 250 hectar yn Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae’r manteision i fusnesau sydd wedi’u lleoli yn y safleoedd hyn neu sy’n adleoli iddynt, yn cynnwys:
5 mlynedd o ryddhad ardrethi
100% o lwfansau cyfalaf uwch ar wariant
Lwfansau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar staff newydd am 3 blynedd
Lwfansau Strwythur ac Adeiladau am 10 mlynedd
Gostyngiad yn nhreth tir y dreth stamp ar bryniannau
Rhyddid rhag tollau ar nwyddau sy’n mynd i mewn ac yn gadael yr ardal dollau
Mae’r manteision i ardaloedd y Porthladd Rhydd yn cynnwys:
£25m i wella isadeiledd y tu mewn i'r ffin.
Mae awdurdodau lleol yn cadw 100% o'r elfen ddyrchafedig o’r refeniw ar drethi busnes am 25 mlynedd.
Gall awdurdodau lleol fenthyca yn erbyn refeniw ar drethi busnes yn y dyfodol, er mwyn gallu buddsoddi ymlaen llaw mewn rhaglenni seilwaith a sgiliau.
Cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau presennol a rhai newydd.
Cyfleoedd cyflogaeth a grëwyd gan y buddsoddiad.
Cyfleoedd i gydweithio â Phorthladdoedd Rhydd eraill.
Cyfleoedd eraill
-
Biome, Abertawe Abertawe | Manwerthu
Prosiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu Uwch
Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands Sir Gaerfyrddin | Gweithdai Bychain
Gan dyfu o lwyddiant buddsoddiad yn y Parthau Bwyd a Busnes, mae Dwyrain Cross Hands yn cynnwys tua 10 hectar o leiniau sy’n barod i’w datblygu.
Darllen mwy -
Ardal y Dywysoges, Abertawe Abertawe | Addysg
Gofod swyddfa fasnachol i'w osod. Bydd adeilad sy’n cynnwys swyddfeydd ar dri llawr yn darparu gweithle llawn cymeriad, sydd wedi'i gynllunio i ansawdd uchel ar gyfer diwallu anghenion busnesau bach a chanolig yr 21ain Ganrif mewn economi Dinas. Bydd y gofod swyddfa hwn, y gellir ei rannu’n is-adrannau, yn galluogi busnesau i sefydlu lleoliad allweddol yng nghanol y ddinas. Mae’n cynnwys, technoleg o'r radd flaenaf, platiau llawr mawr sy’n hyblyg, teras to bywiog a dau bod cyfarfod ar y to sydd â golygfeydd panoramig dros ganol y ddinas. Hefyd mae’r dderbynfa foethus ar y llawr gwaelod yn cynnwys seddi cymunedol, cyfleusterau cawod a newid, mannau gwisgo sy’n cynnwys sychwyr a sythwyr gwallt, a storfa feiciau ddiogel ar y safle yng nghefn yr adeilad.
Bydd unedau manwerthu'r llawr gwaelod yn rai y gellir eu haddasu.
Darllen mwy -
Datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad Sir Gaerfyrddin | Hamdden a Lletygarwch
Mae datblygiad Gogledd Stryd y Farchnad yn Llanelli yn brosiect allweddol arall sydd â'r nod o adfywio canol y dref. Gobeithir cwblhau y gwaith ar y datblygiad hwn erbyn mis Rhagfyr 2025 a bydd yn darparu pum uned fasnachol ar y llawr gwaelod a deg fflat sydd â dwy ystafell wely.
Darllen mwy -
Pentre Awel Sir Gaerfyrddin | Gofal Iechyd
Mae Pentre Awel yn ddatblygiad arloesol sydd wedi'i leoli ar safle 83 erw yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy