Nod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolbwynt o ansawdd uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd, a fydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.
Nod y buddsoddiad yn y parc bwyd yw creu lleiniau yn barod i'w datblygu ledled y safle 23 erw sydd yn eiddo i’r cyngor.
Mae’r safle wedi'i leoli ar gyrion Hwlffordd ac mae iddo gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, ar y môr ac yn yr awyr. Ar hyn o bryd, mae rhan gyntaf y gwaith ar isadeiledd y safle bron wedi'i gwblhau.
Mae Sir Benfro yn enwog am ei chynnyrch o safon uchel a bydd y parc bwyd hwn yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr gaffael lleiniau i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu bwyd a fydd yn creu gwerth ychwanegol a swyddi newydd yn y rhanbarth.
Mae gan y datblygiad cyffrous hwn y potensial i ychwanegu gwerth pellach at yr arbenigedd sydd gan gynhyrchwyr yr ardal a darparu cyfleoedd pwysig ar gyfer cyflogaeth a thwf busnes.
Mae Parc Bwyd Sir Benfro yn rhan bwysig o nod hirsefydlog y Cyngor i gefnogi a chryfhau diwydiant bwyd a diod Sir Benfro, trwy gadw mwy o’r gwerth ychwanegol a ddaw o gynhyrchu’n lleol.
Mae'r prosiect yn fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi derbyn £1 miliwn o Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, ar gyfer cyflawni cam cyntaf y gwaith ar yr isadeiledd yn y parc bwyd. Dolen at Daflen wybodaeth ar ffurf PDF
Am ragor o wybodaeth ewch i: Parc Bwyd Sir Benfro, Llwynhelyg, Hwlffordd - Cyngor Sir Penfro
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai Bychain
Canolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Dociau Aberdaugleddau a Phenfro Sir Benfro | Arloesedd
Mae Porthladd Aberdaugleddau yn borth llongau blaenllaw o fewn y DU, gan drin y llwythi canlynol: hylif mewn swmp, defnydd sych mewn swmp, deunydd swmp rhanedig a chargo lifft trwm.
Darllen mwy -
Canolfan Arloesedd Bae Baglan Castell-nedd Port Talbot | Arloesedd
Mae Canolfan Arloesi Bae Baglan wedi'i lleoli ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot. Dyma gyfleuster blaenllaw sydd wedi'i gynllunio i feithrin arloesedd ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd ac ymchwil a datblygu. Mae'r ganolfan fodern hon yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ffyniant busnesau uwch-dechnoleg a chynaliadwy.
Darllen mwy -
Y Storfa – Hwb Cymunedol, Abertawe Abertawe | Sector Cyhoeddus
Hwb Cymunedol Aml-bwrpas
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | Arloesedd
Mae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
Biome, Abertawe Abertawe | Manwerthu
Prosiect adfywio defnydd cymysg gyda chyfleoedd masnachol ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, swyddfeydd a defnydd gwyddonol.
Darllen mwy