Mae'r Llywodraeth wedi gosod uchelgais i ddarparu hyd at 5GW o wynt arnofiol erbyn 2030, a rhagwelir y bydd ehangu cyflym wedi hynny.
Mae Ystad y Goron wedi ymrwymo i helpu’r DU i gyflawni ei huchelgeisiau sero net. I gefnogi hyn, maent yn darparu cyfle prydlesu newydd yn y Môr Celtaidd ar gyfer y genhedlaeth gyntaf o ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ar raddfa fasnachol, gan ddatgloi hyd at 4GW o gapasiti ynni glân newydd erbyn 2035. Bydd hyn yn rhoi hwb i ddiwydiant yn y rhanbarth ac yn darparu pŵer ar gyfer bron i bedair miliwn o gartrefi.
Bydd Ystad y Goron yn gwahodd prosiectau ar raddfa fasnachol lawn hyd at 1GW, y gellir eu datblygu’n raddol neu trwy ddull ‘cerrig camu’. Gan gydnabod yr angen i ddatblygu cadwyn gyflenwi’r DU a’i seilwaith ategol ar gyfer y dechnoleg eginol hon, bwriad y dull hwn yw darparu cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad. Bydd hyn hefyd yn hwyluso cydgysylltu’r seilwaith angenrheidiol, megis porthladdoedd a chysylltiadau grid, ac mae hyn i gyd yn allweddol i ddatblygiad cynaliadwy y sector gwynt arnofiol yn y DU yn yr hirdymor.
Bydd y cyfle prydlesu hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer mwy o gapasiti yn y dyfodol ac yn helpu i sefydlu sector diwydiannol newydd a chyffrous ar gyfer y DU, gan greu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad newydd sylweddol mewn swyddi, sgiliau a seilwaith ar gyfer y cymunedau ar y tir.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru ym mis Mawrth 2023. Lleolir y fferm wynt 40km oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae’r prosiect yn rhan o symud oddi wrth system ynni sy’n dibynnu ar danwydd ffosil drud a bydd yn cyfrannu at dargedau ynni Llywodraeth Cymru a gwella ein sicrwydd ynni.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer y sector ynni gwynt ar y môr yng Nghymru. Credwn fod ganddo’r potensial i ddarparu ffynonellau ynni cynaliadwy yn y dyfodol ac mae hefyd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i agor marchnadoedd newydd i gyflenwyr lleol a chreu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle prydlesu ar gael drwy fynd i wefan Ystadau’r Goron: Floating offshore wind | Floating offshore wind (thecrownestate.co.uk)
Hefyd, gellir e-bostio Cyngor Sir Benfro yn: BusinessSupport@Pembrokeshire.gov.uk
Cyfleoedd eraill
-
Canolfan Arloesedd y Bont Sir Benfro | Gweithdai BychainCanolfan Arloesedd y Bont yw’r prif leoliad ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau yn Sir Benfro.
Darllen mwy -
Trecwn Sir Benfro | FfatrïoeddMae Trecwn wedi ei leoli tua 3 milltir i'r de o Abergwaun yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd y safle yn arfer bod yn storfan ar gyfer Arfau'r Llynges Frenhinol ac mae’n ymestyn dros 1000 o erwau a gellir ei gyrraedd ar hyd ffordd breifat oddi ar yr A40.
Darllen mwy -
Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau Sir Benfro | Gweithgynhyrchu UwchSefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol yr ardal, yn ogystal â’r safleoedd posibl a’r sylfaen diwydiant cysylltiedig sydd yn yr ardal.
Darllen mwy -
Ardal Forol Doc Penfro Sir Benfro | ArloeseddMae menter Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect trawsnewidiol i Gymru a gweddill y DU gan greu cyfleoedd clir i ddiwydiant ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darllen mwy -
71/72 Ffordd y Brenin, Abertawe Abertawe | Technoleg GwybodaethGofod swyddfa masnachol sy'n addas ar gyfer y sectorau digidol ac uwch-dechnoleg.
Darllen mwy -
Cwm Gwyrdd Nantycaws Sir Gaerfyrddin | ArloeseddMenter economi werdd arloesol yw CWM Gwyrdd Nant-y-caws sydd yn adeiladu ar gryfderau presennol mewn adfer adnoddau, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth, tra'n creu lle newydd ar gyfer mentrau carbon isel ac adfer amgylcheddol.
Darllen mwy